30 awr yr wythnos
Dros dro hyd at fis Mawrth 2026
Mae swydd wag wedi codi ar gyfer Swyddog Cymorth Gwasanaeth Mabwysiadu yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin. Mae hwn yn gydweithrediad o 3 awdurdod lleol, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe sy'n darparu gwasanaethau i bawb y mae mabwysiadu yn effeithio arnynt Mae hon yn swydd dros dro 30 awr yr wythnos i gwmpasu absenoldeb secondiad o'r dyddiad dechrau y cytunwyd arno ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus tan 31 Mawrth 2026. Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Anecs Castell-nedd.
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cymorth busnes hyblyg, o ansawdd uchel ac effeithlon. Bydd hyn yn cynnwys teleffoni, defnyddio systemau T.G. a darparu cymorth clercol i Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gymryd cofnodion wythnosol paneli WBAS.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llawn cymhelliant, yn drefnus ac yn gallu gweithio i derfynau amser tynn. Rhaid i chi feddu ar safon dda o addysg.
Bydd y swydd wedi'i lleoli yn Anecs Castell-nedd yng nghanol tref Castell-nedd. Fodd bynnag, efallai y bydd disgwyl i ymgeiswyr weithio mewn lleoliadau amrywiol ar draws rhanbarth Bae'r Gorllewin pan fo angen.
Am drafodaeth anffurfiol, ffoniwch Tracy Willis ar 01639 686166 neu
t.willis@westernbayadoption.org
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Mehefin 2025
Dyddiad llunio rhestr fer: 19 Mehefin 2025
Dyddiad Cyfweld: 26/27 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person