Math o Gontract: Contract Cyfnod penodol cyllid grant i 31ain o Mawrth 2028, estyniad yn dibynnu ar gyllid grant.
Oriau: Llawn Amser 37 awr yr wythnos
Lleoliad y swydd: Gweithio hybrid, ond lleoliad gwaith yn Llyfrgell Taibach, Commercial Road, Taibach, Port Talbot, SA13 1LN
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Cynorthwyydd Datblygu Dechrau'n Deg Blynyddoedd Cynnar i ymuno â'n tîm.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am -
Mae Tîm Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Dechrau'n Deg yng Nghastell-nedd Port Talbot yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i ddatblygu a chefnogi ein Lleoliadau Gofal Plant o safon fel rhan o ehangu Dechrau'n Deg a datblygu'r Gymraeg o fewn y sector ledled Castell-nedd Port Talbot.
Fel rhan o Dîm Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Dechrau'n Deg, byddwch yn parhau i wella ansawdd y lleoliadau gofal plant trwy hwyluso gweithdai, hyfforddiant a mentora staff gofal plant yn y lleoliad, gan ganolbwyntio'n bennaf ar gynnal a datblygu'r amgylcheddau chwarae yn unol â'r cwricwlwm newydd ar gyfer y blynyddoedd cynnar, a gwella'r ddarpariaeth yn unol â Diwygio ADY.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod â phrofiad o weithio o fewn gofal plant, a gwerthfawrogiad brwd o Gwricwlwm y Blynyddoedd Cynnar er mwyn cynghori a datblygu'r lleoliadau gofal plant.
Prif ddyletswyddau'r swydd;
- Gan weithio dan oruchwyliaeth yr Arweinydd Gofal Plant, o fewn Tîm Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar amlasiantaethol a Gofal Plant Dechrau'n Deg, byddwch yn cyflawni ystod o ddyletswyddau i arwain a chefnogi datblygiad parhaus y lleoliadau gofal plant o ansawdd uchel o fewn y rhaglen yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Bydd gennych brofiad o'r canlynol:
Gweithio mewn ffordd aml-asiantaeth gydag ystod eang o weithwyr proffesiynol
Profiad o osod cwricwlwm Blynyddoedd Cynnar
Yn ddelfrydol bydd gennych y canlynol:
Menter Llywodraeth Cymru (LlC) yw Dechrau'n Deg, sy'n ceisio targedu cefnogaeth i blant cyn oed ysgol a'u teuluoedd mewn ardaloedd a nodwyd, a sicrhau canlyniadau penodol i blant.
Os ydych yn credu bod gennych y profiad a'r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y rôl hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Eich dull gweithio bydd fel gweithiwr hybrid symudol yn y rôl hon, sy'n rhoi'r hyblygrwydd i chi weithio gartref ac o amrywiaeth o weithleoedd y Cyngor.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Lynne Baker ar
E-bost: l.baker@npt.gov.uk
Gofyniad GDG:
Mae'r swydd hon yn amodol ar ddatgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc/oedolion sy'n agored i niwed ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae ein /hysgolioncyflogeion yr un mor ymrwymedig i sicrhau diogelwch a gwarchodaeth pob plentyn a pherson ifanc/oedolyn sy'n agored i niwed a chymryd camau i ddiogelu eu lles.
Bydd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon yn cael ei hategu gan asesiad recriwtio mwy diogel a thrylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Gofynion y Gymraeg:
Sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rydym yn cynnig cynllun cyfweld gwarantedig ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anabledd a chyn-filwyr y lluoedd arfog.
I gefnogi gweithwyr Tata Steel sydd mewn perygl o gael eu diswyddo, neu sydd wedi cael eu diswyddo yn 2024, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer swyddi ar draws y Cyngor. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd i fod yn gymwys ar gyfer hyn. Os ydych chi wedi, neu'n mynd i gael eich effeithio gan y colledion swyddi yn Tata Steel yna byddem yn croesawu cais oddi wrthych. Nodwch yn glir ar eich ffurflen gais eich bod mewn perygl o gael eich diswyddo ar hyn o bryd neu os ydych wedi cael eich diswyddo'n barod.
Yn Nhîm Castell-nedd Port Talbot, rydym oll yn gweithio gyda'n gilydd i wasanaethu ein pobl, ein cymunedau a'n busnesau.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ein holl weithwyr.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i dîm Castell-nedd Port Talbot