Cytundeb: Parhaol
Oriau: 37 Yr Wythnos / Llawn Amser
Arddull Gweithio: Hybrid Ystwyth
Mae'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yn dymuno penodi Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr cymwys i ymgymryd â llwyth achos o faterion dadleuol/cyfreithadwy gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i swyddogaethau canlynol y Cyngor yn unig – Gwasanaethau Rheoliadol (gan gynnwys mewn perthynas â chyfrifoldebau trwyddedu awdurdodau lleol); Priffyrdd ac Iechyd y Cyhoedd, Cynllunio Gwlad a Thref, Safonau Masnach, yr Amgylchedd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Adennill Dyled, Treth y Cyngor, Cyllid, Addysg, Materion Corfforaethol (gan gynnwys Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a Diogelu Data), a Throsedd ac Anhrefn.
Mae'r swydd yn cynnwys darparu cyngor cyfreithiol, ymchwil ac eiriolaeth yn bennaf yn y Llys Ynadon ond hefyd yn Llys y Goron. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn helpu i ymdrin ag achosion cyfraith sifil ac yn cefnogi'r Prif Gyfreithiwr - Cyfreithiad i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol i Aelodau a Swyddogion y Cyngor.
Mae'n rhaid bod gennych brofiad cyfreithiol profedig yn ogystal â'r gallu i weithio gydag uwch-reolwyr a sefydliadau partner. Os byddai cyfreithiwr sy'n ymgeisio fel un sy'n dal hawl i ymddangos mewn uwch lys – Cyfraith trosedd yn ddymunol, ond nid yn hanfodol, byddai angen parodrwydd i ymgymryd â'r cymhwyster hwn. Mae arnom angen hefyd rywun sy'n fedrus ac yn frwdfrydig a chanddo ymdeimlad cryf o gywirdeb. Mae angen sgiliau TG da a'r gallu i reoli a blaenoriaethu llwythi gwaith mawr a chyflawni gwaith yn erbyn amserlenni tynn. Yn olaf, byddai profiad o ymgymryd â gwaith cyfraith trosedd a rheoleiddiol, neu ymrwymiad i ddysgu a datblygu yn y meysydd hynny, gan gynnwys eiriolaeth, yn rhinweddau hanfodol.
Yr Iaith Gymraeg: Dymunol
Rydym yn cynnig pecyn hynod gystadleuol sy'n cynnwys hawl i 25 diwrnod o wyliau, sy'n codi i 32 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth, 8 gŵyl banc ynghyd ag un diwrnod statudol ychwanegol ac aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Rydym yn gweithredu ymagwedd hyblyg at weithio gyda'r gallu i weithio gartref ac yn y swyddfa.
Os ydych yn awyddus i helpu i ddatblygu perfformiad ein gwasanaethau cyfreithiol, yna cysylltwch â Mike Shaw (Prif Gyfreithiwr – Cyfreithiad) am drafodaeth anffurfiol ar 01639 763260 neu e-bostiwch m.shaw@npt.gov.uk