Math o gytundeb: Parhaol
Oriau: Rhan Amser 22.5 awr yr wythnos
Lleoliad y swydd: Amrywiol
Rydym yn chwilio am Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid brwdfrydig. A'i chi yw hwn/hon?
Os oes gennych frwdfrydedd am wasanaethau cwsmeriaid ac am weithio i sefydliad dibynadwy, parhewch i ddarllen.
Darparwn wasanaeth aml-sianel, pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer amrywiaeth o gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ymateb i ymholiadau yn y dderbynfa, ar y ffon, drwy e-bost ac ar y we.
Edrychwn am berson profiadol yn y maes gwasanaethau cwsmeriaid, sydd a'r gallu i weithio o dan bwysau ac sy'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd gwaith heriol ag ymdrechgar.
Fydd angen eich bod yn amyneddgar a sylwgar i ofynion y cwsmeriaid gan ddarparu ymatebion pwrpasol i'w gofynion am wasanaeth.
Mae sgiliau cyfathrebu gwych, hyder mewn sefyllfaoedd wyneb-i-wyneb, ar y ffon ac wrth ysgrifennu ynghyd a sgiliau rhyngbersonol da a'r gallu i weithio'n effeithiol a'n hyblyg fel rhan o dîm, yn hanfodol.
Fel tîm mae'r disgwyl i ni weithio mewn sawl lleoliad ar draws Castell-Nedd Port Talbot er mwyn ateb gofynion busnes, felly mae'r gallu i deithio rhwng y safleoedd hyn, yn ofynnol.
Yn ddelfrydol, fydd gennych:
4 TGAU , gradd C neu'n uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg, neu gymhwyster o lefel gymharol, e.e. GNVQ Canolradd Lefel 2, Tystysgrif Gyntaf BTEC neu’r profiad perthnasol fel tystiolaeth yn lle rhain.
Mae NVQ Lefel 2 Gwasanaeth Cwsmer hefyd yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Yma, ychwanegwch unrhyw ffeithiau diddorol perthnasol am y tîm/adran/Cyfarwyddiaeth.
Darpariaeth Gwasanaeth Cwsmer da yw ateb gofynion y cwsmer â chysondeb.
Os ydych yn credu bod gennych y profiad a'r cymwysterau perthnasol i'r swydd yma, yna fe hoffwn glywed wrthoch.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Carolyn Wynchcombe/Rhian Worlcock ar:
Ffon: 01639 685995/01639 686868 neu E-bost: c.winchcombe@npt.gov.uk/r.worlock@npt.gov.uk
Dyddiad Cau: 31 Mai 2024