Math o gontract: Tymor Penodol - Ariannu Grant 31/03/2030
Oriau: 37
Lleoliad: Gweithio Hybrid (O gartref / Swyddfa Parc Gwledig Margam)
Am y swydd:
Dyma gyfle cyffrous i weithio yn adran newydd Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant Cyngor Castell-nedd Port Talbot. O ganlyniad i greu Strategaeth Ddiwylliant newydd Castell-nedd Port Talbot, rhoddwyd ffocws o'r newydd ar fuddsoddi mewn treftadaeth, diwylliant, twristiaeth a'r celfyddydau creadigol, law yn llaw â'n partneriaid a rhanddeiliaid yn y maes.
Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol ym maes datblygu'r celfyddydau i ymuno â'n tîm yn swydd Rheolwr Datblygu'r Celfyddydau. Ariennir y swydd yn rhannol gan NPTCBC, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU.
Bydd deiliad y swydd yn cymryd yr awenau'n strategol ar sicrhau fod y celfyddydau ar gael i bawb yng Nghastell-nedd Port Talbot. Cyflawnir hyn drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i hybu cydlyniant creadigol mewn cymunedau drwy gyfrwng rhaglenni a strategaethau a gyd-gynlluniwyd ac a gyd-ariannwyd.
Amdanoch chi:
Oes gennych chi:
Amdanom ni:
Rydyn ni'n credu mewn gwobrwyo a chydnabod ymdrechion a llwyddiannau ein cydweithwyr. Rydyn ni hefyd yn credu fod bywyd yn y gwaith a bywyd y tu fas i'r gwaith, Rydyn ni eisiau i bawb fod yn iach a hapus a chael yr adnoddau riannol a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.
Os hoffech ddechrau ar yrfa fydd yn eich bodloni, gyda chwmni sy'n gwerthfawrogi ac yn buddsoddi yn ei weithwyr, ac os oes gennych chi'n profiad a'r cymwysterau angenrheidiol, efallai mai dyma eich swydd ddelfrydol, a byddem wrth ein bodd o glywed oddi wrthych.
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Karleigh Davies ar
Ffôn: 07971719750
E-bost: k.davies16@npt.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rydyn ni'n cynnig cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr ag anabledd a chyn-filwyr y lluoedd arfog. I gefnogi gweithwyr Tata Steel sydd dan fygythiad colli'u swydd neu sydd wedi colli'u swydd yn 2024, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwarantu cyfweliad ar gyfer swyddi ledled y Cyngor. Nodwch os gwelwch yn dda fod yn rhaid i ymgeiswyr gyflawni'r holl feini prawf hanfodol, fel y'u dangosir ym manyleb y person, i fod yn gymwys i gael gwarant o gyfweliad. Os ydych chi'n cael eich effeithio, neu'n mynd i gael eich effeithio, gan golledion swyddi yn Tata Steel yna byddem ni'n croesawu cais oddi wrthych. Hysbyswch ni ar eich ffurflen gais eich bod chi yn y sefyllfa o fod dan fygythiad o golli eich swydd, neu wedi colli eich swydd.
Yn Nhîm CNPT rydyn ni oll yn cydweithio i wasanaethu pobl, cymunedau a busnesau Castell-nedd Port Talbot.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a daatblygiad proffesiynol ein holl weithwyr.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Dîm CNPT.