CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2
(2 x swydd) dros dro
Ar gyfer: 1af o Fedi 2025
Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.
Mae ysgol Gymraeg Pontardawe yn gymuned hapus a chyfeillgar gydag ethos gofalgar a chefnogol.
Mae’r swydd yma am 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Pontardawe for which the ability to speak Welsh is essential.
Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mr Martin Evans, Pennaeth ar 01792 862136.
Gallwch lawrlwytho pecyn cais o www.eteach.com.
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw DYDD LLUN, MEHEFIN 2ail 2025.