I ddechrau: mor gynted a phosibl (yn dilyn asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr)
SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU
LEFEL 2 – (Cynorthwyo 1:1)
Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i gefnogi plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ym mwlyddyn 4. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.
Mae’r swydd yma am 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 23.5.25 12pm
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Gwaun Cae Gurwen for which the ability to speak Welsh is essential.