Parhaol
10 awr yr wythnos
Bydd oriau gwaith yn cynnwys gweithio ar ddydd Sadwrn lle telir mwy o gyflog ar ei gyfer. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg o ran oriau gwaith a'r lleoliad.
Oriau Gwaith:
Wythnos 1 Dydd Gwener 9.30 – 12.30 / 2.00 – 5.30, Dydd Sadwrn 10.00 – 12.30
Wythnos 2 Dydd Llun 2.00 –5.30, Dydd Mawrth 2.00 -5.30 Dydd Mercher 2.00 -5.30
YDY
Os ydych yn bwriadu ymgeisio am y swydd hon drwy gyfle secondiad, rhaid i chi gael caniatâd gan eich rheolwr presennol cyn cyflwyno ffurflen gais.
Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Llyfrgell i ymuno â'n tîm.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am helpu i ddarparu gwasanaeth llyfrgelloedd a gwybodaeth effeithiol ac effeithlon, o safon.
Prif ddyletswyddau'r swydd;
Ymgymryd â thasgau arferol sy'n gysylltiedig â gweithrediad y gwasanaeth Llyfrgelloedd, gan gynnwys croesawu defnyddwyr, cofrestru defnyddwyr newydd, prosesu benthyciadau o'r stoc, ymdrin â cheisiadau darllenwyr a bodloni ymholiadau am wybodaeth.
Paratoi a symud stoc rhwng llyfrgelloedd.
Gweithredu'r cyfleusterau cyfrifiadurol yn effeithiol a chynorthwyo'r cyhoedd i’w defnyddio.
Cynorthwyo wrth hyrwyddo digwyddiadau a pholisïau datblygu darllenwyr, gan gynnwys amserau stori a gweithgareddau crefft.
Cynorthwyo defnyddwyr wrth ddarparu deunyddiau addas er gwybodaeth ac ar gyfer Dysgu Gydol Oes.
Cynorthwyo wrth gynnal a chadw amgylchedd gwaith diogel ar gyfer staff a'r cyhoedd drwy sicrhau y cydymffurfir â pholisïau iechyd a diogelwch yr awdurdod.
Cyfrannu at gyflwyno'r Strategaeth Llyfrgelloedd fel y bo'n briodol.
Cynorthwyo wrth roi holl bolisïau'r gyfarwyddiaeth, a rhai corfforaethol, ar waith fel y bo'n briodol.
Cyflwyno dyletswyddau eraill yn unol â graddfa'r swydd.
Bydd gennych brofiad yn y gwasanaeth Llyfrgelloedd a gwasanaethau cwsmeriaid.
Yn ddelfrydol bydd gennych y canlynol;
Rhaid bod gennych o leiaf 4 TAG/TGAU (Graddau A-C) neu gyfwerth, a ddylai gynnwys Saesneg
Os ydych chi'n credu bod gennych y profiad a'r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y rôl hon, rydym yn awyddus iawn i glywed gennych.
Am drafodaeth anffurfiol, ffoniwch Wayne John, Llyfrgellydd Sirol, ar 01639 899829 neu e-bostiwch w.john@npt.gov.uk
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rydym yn cynnig cynllun cyfweliadau gwarantedig i ymgeiswyr ag anabledd a chyn-filwyr y lluoedd arfog.
Yn Nhîm CNPT, rydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i wasanaethu pobl, cymunedau a busnesau Castell-nedd Port Talbot.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol i'n holl weithwyr.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Dîm CNPT.