Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser yn yr Adran Gynnal Dysgu. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm cynnal sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r Adran Gynnal yn cynorthwyo nifer o ddisgyblion i sicrhau bod eu mynediad at addysg yn rhwydd ac yn llifo yn fwy hwylus gyda chymorth oedolyn ac arweiniad unigol. Mae rhai disgyblion â thrafferthion sgiliau sylfaenol, megis llythrennedd neu rifedd a disgyblion eraill angen cymorth corfforol neu emosiynol. Mae disgyblion sy’n derbyn cymorth o fewn yr adran yn gwerthfawrogi’r gynhaliaeth ac yn gwneud cynnydd da gydag arweiniad ac yn llwyddo i ymdopi a llwyddo gyda gofynion y cwricwlwm.
Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannnus yn cefnogi disgyblion yn eu gwersi ac yn cynorthwyo’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol i redeg rhaglen gynhwysfawr o raglenni ymyrraeth er mwyn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymdeithasol. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn chwarae rôl annatod yn y broses o sicrhau bod holl weithredoedd yr adran yn rhai sydd yn ffocysu ar yr unigolyn, gan gynnwys cyfrannu at y broses o gynnal adolygiadau cynnydd a chynlluniau datblygu unigol.
Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg.
Yn ogystal mae’r adran yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o fywyd y tu hwnt i wersi ffurfiol drwy weithdai ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb yn lleol ac i ymwneud â phrofiadau sy’n cyfoethogi eu profiad o fyd addysg ffurfiol. Edrychwn am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd academaidd ac allgyrsiol yr Adran.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.
Proses YmgeisioGellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.