Rydym ni’n cynnig cyfle cyffrous i ymuno â Thîm CNPT a’n cenhadaeth i wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle mae pobl yn falch o fyw, dysgu, gweithio a magu eu teuluoedd ynddo.
Fel yn achos gweddill y wlad, mae’r tirlun wedi Covid-19 yn cyflwyno heriau sylweddol, ond mae yna hefyd gyfleoedd. Yma yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot rydym ni’n bwriadu gwneud yn fawr o’r cyfleoedd hyn, gan adeiladu ar ymateb rhyfeddol y gymuned a phartneriaeth yn ystod y pandemig.
Cewch hyd i’r rhan hardd hon o dde Cymru rhwng dinasoedd Abertawe a Chaerdydd, yn ymyl Penrhyn Gŵyr a Bannau Brycheiniog. Mae cymoedd a rhaeadrau, afonydd ac arfordir yn gefnlun i lawer o weithgareddau megis cerdded, beicio mynydd a syrffio. Ceir yma dros 140,000 o drigolion a defnyddwyr gwasanaeth, ac mae hon yn ardal lewyrchus, sydd â hanes cyfoethog, ond sydd â’i golygon yn bendant ar y dyfodol.
Rydym ni’n chwilio am Gynllunydd Cynorthwyol i ymuno â’n Tîm Rheoli Datblygu a chaffael profiad sylweddol o weithio mewn awdurdod blaengar.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae llawer i’w wneud, a chewch fod yn rhan o fentrau arloesol sy’n torri tir newydd. Yn ystod y blynyddoedd nesaf byddwn ni’n delio ag ystod eang o geisiadau, gan gynnwys ffermydd gwynt newydd ar ffurf Datblygiadau ag Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS), prosiectau trawsffurfiol megis ‘Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd’ (GCRE) a ‘Wildfox Resorts Cwm Afan’, yn ogystal â nifer o ddatblygiadau eraill ar raddfa fawr sy’n gysylltiedig ag addysg, cyflogaeth a thwristiaeth.
Wrth i ni symud trwy adferiad economaidd wedi Covid, rydym am sicrhau bod cynllunio’n chwarae ei ran i hwyluso datblygiadau newydd. Rydym ni’n delio ag amrywiaeth eang o ddatblygiadau preswyl, masnachol, hamdden, ynni a chynlluniau eraill cyffrous, sy’n golygu y gallwn ni gynnig cyfle gwych i chi gaffael profiad neu wybodaeth, neu adeiladu ar yr hyn sydd gennych eisoes.
Mae’r swydd hon, i Gynllunydd Cynorthwyol, yn gyfle cyffrous i gaffael profiad a gwybodaeth neu ddatblygu’r hyn sydd gennych eisoes. Byddech yn delio â phob agwedd ar faterion cynllunio sy’n gysylltiedig ag ymholiadau cyffredinol ynghylch yr angen am ganiatâd cynllunio, ac yn gyfrifol am reoli llwyth achosion cymysg o geisiadau datblygu llai cymhleth, gan gynnwys ceisiadau deiliaid tai a thystysgrifau datblygu cyfreithlon, ac unrhyw apeliadau cysylltiedig, yn ogystal â chyfle i weithio ar brosiectau datblygu mwy o faint, ceisiadau cynllunio dadleuol ac achosion apêl, yn cwmpasu pob math o faterion datblygu.
Mae’r swydd yn galw am 4 TGAU (Gradd A – C) mewn Cymraeg, Saesneg neu Fathemateg, neu gymhwyster cynllunio a/neu byddai profiad Rheoli Datblygu perthnasol yn ddymunol.
Bydd angen hefyd bod gennych chi sgiliau cyfathrebu, trefnu a rhyngbersonol ardderchog, ac ymrwymiad cadarn i ofal cwsmeriaid. Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn gallu teithio ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Byddwch yn llawn brwdfrydedd a chymhelliad, ac yn cyflawni datblygiadau o safon uchel yn gyflym. Byddwch hefyd yn gallu gweithio fel rhan o dîm, ar eich pen eich hun wrth reoli llwyth achosion neu geisiadau, ac wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Os ydych chi’n barod am yr her hon, rydym ni’n edrych ymlaen at glywed oddi wrthych.
Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn gallu teithio ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol.
Sgiliau Cymraeg yn ofyniad dymunol ar gyfer y rôl hon
Mae’r Cyngor wrthi ar hyn o bryd yn symud yn barhaol i ddull hybrid, mwy hyblyg, o weithio.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â’r Rheolwr Datblygu, Mr Chris Davies ar 01639 686726 neu e-bostiwch c.j.davies@npt.gov.uk
Gallwch wneud cais ar-lein trwy dudalen swyddi Cyngor CNPT www.npt.gov.uk/jobs