Amser llawn (37 awr) a pharhaol
Gwasanaeth Cynhwysiad, Canolfan Ddinesig
Port Talbot SA13 1PB
Dyma gyfle cyffrous yn ystod adeg o newid sylweddol i berson â chymwysterau a phrofiad addas i ymgymryd â rôl Gweithiwr Achos o fewn y Gwasanaeth Cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol (GCADY).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiad ehangach i helpu'r awdurdod lleol i gyflawni ei ddyletswyddau statudol yn effeithiol, fel a amlinellir yng Nghôd Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Bydd hyn yn cynnwys y gefnogaeth weinyddol barhaus mewn perthynas â'r broses Asesu Statudol sy'n gysylltiedig â disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, sy'n cwmpasu datblygu a diwygio Datganiadau o AAA a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDUau), ymgymryd â chofnodi data, diweddaru ffeiliau disgyblion unigol, a defnyddio amrywiaeth o systemau a rhaglenni TG.
Bydd deiliaid y swydd yn ymrwymedig i sicrhau'r canlyniadau gorau posib ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), trwy roi ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person ar waith a gweithio'n effeithiol ar y cyd â gweithwyr proffesiynol ehangach ac asiantaethau partner.
Mae'n swydd ran-amser a chroesewir ceisiadau gan weithwyr proffesiynol gyda'r profiad a'r cymwysterau perthnasol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae ein hysgolion/gweithwyr yr un mor ymrwymedig i sicrhau diogelwch yr holl blant a phobl ifanc a byddant yn cymryd camau gweithredu i ddiogelu eu lles.
Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon fydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae'r swydd hon yn destun datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I ofyn am drafodaeth anffurfiol, e-bostiwch Maria Hughes, Cydlynydd Gwaith Achos yn m.hughes@npt.gov.uk