Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn profiadol, llawn cymhelliad, sydd â chymwysterau addas, ymuno â thîm Polisi Cynllunio amlddisgyblaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Fel Cynllunydd Polisi Uwch, byddwch yn cefnogi’r tîm wrth ymdrin ag ystod o faterion polisi cynllunio, ochr yn ochr â chyflawni rôl arweiniol wrth baratoi, monitro ac adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol, gan gynnwys llunio polisi cynllunio a chynhyrchu a chomisiynu dogfennau allweddol seiliedig ar dystiolaeth.
Bydd gofyn eich bod yn paratoi adroddiadau ac yn cyflwyno argymhellion ar amrywiaeth o faterion polisi cynllunio ac yn ymddangos ar ran y Cyngor yn yr Archwiliad Cyhoeddus ac mewn Apeliadau Cynllunio. Rhan o’r rôl fydd cyfrannu at gydweithio rhanbarthol parhaus a chynorthwyo i baratoi astudiaethau tystiolaeth a methodolegau ar y cyd.
Bydd y rôl yn helpu i lywio cyfeiriad cynllunio strategol a dylai fod gan ymgeiswyr hanes profedig o gyflawni gwaith ymchwil a dadansoddi ar draws ystod o bortffolios cynllunio. Dylech arddangos cymhwysedd i gyflawni canlyniadau cadarnhaol a hybu datblygu cynaliadwy a thwf. Mae profiad blaenorol o weithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu/ymgynghori â’r cyhoedd a’r gallu i weithio ar eich menter eich hun yn hanfodol.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus arddangos gwybodaeth gadarn am Ddeddfwriaeth a Pholisi Cynllunio Cenedlaethol, yn arbennig proses y Cynllun Datblygu Lleol, a bod yn gyfarwydd â sut mae swyddfa gynllunio broffesiynol llywodraeth leol yn gweithio.
Mae gofyn bod gan ymgeiswyr Radd a achredwyd gan yr RTPI mewn Cynllunio neu gymhwyster Cynllunio cyfatebol a/neu brofiad sylweddol mewn disgyblaeth debyg.
Os ydych yn tybio bod gennych y profiad a’r cymwysterau angenrheidiol i gyflawni’r rôl hon, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Sgiliau Cymraeg yn ofyniad dymunol i'r swydd hon
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Lana Beynon ar
Ffôn: 01639 686314 neu E-bost: l.beynon@npt.gov.uk
Gallwch wneud cais ar-lein trwy dudalen swyddi Cyngor CNPT