30 hours per week
Term time, 40 weeks per year
Permanent
Neath Port Talbot School Based Counselling Service (NPT SBCS) is a multi-modality team of therapists comprised of School Based Counsellors, Play Therapists and a Drama Therapist. NPT SBCS is committed to helping Children and Young People (CYP) address emotional and mental health issues so that they may rise through adversity, achieve their potential and lead fulfilling lives. This is achieved through the provision of counselling and child therapy to CYP in Years 1-13 across NPT. Counsellors and Play Therapists provide targeted therapy to CYP in order to address a range of emotional and mental health issues. We support schools in this joint endeavor through consultation, support and high quality in house training which is available to head teachers, school Governors, teaching and non-teaching staff. We support primary school parents in supporting the emotional wellbeing of their children through our Primary Parents Helpline.
Additionally, the service is passionate about addressing school staff wellbeing due to the well documented link between staff wellbeing and pupil wellbeing, thorough initiatives such as the School Staff Supervision Service and School Staff Counselling Service.
NPT SBCS is undergoing an exciting time of development and expansion. These posts have arisen due to additional funding within the service.
We are seeking to appoint a dedicated and innovative qualified Play Therapist to work with pupils from Years 1-13 across primary and secondary schools within Neath Port Talbot. Some work may also be undertaken outside of school hours and outside the school setting.
In addition to providing direct Play Therapy, you will have an important role in delivering g roup work where needed. You will also run workshops with groups of children and young people and deliver training when required. You will play an integral part in developing the School Based Counselling Service within the authority, including collaborative working with other staff within the Inclusion Service and taking part in multi-disciplinary consultations with schools. Enhancing the skills of school based staff will also be an important element of the post.
We welcome applications from those who hold a Play Therapy qualification approved by BAPT/PTUK and are accredited /registered with a relevant professional body (i.e. BAPT/PTUK to commence in September 2022 subject to interview and D.B.S. check.
You will join a friendly, lively and innovative School Based Counselling Team who are committed to assisting the LEA in the achievement of increased inclusion and raising educational standards. Committed to the concept of inclusive education, you will have an understanding of the challenges facing education in deprived areas and be a passionate supporter of high expectations and achievement for all pupils.
Welsh language skills are desirable
Applications may be submitted in Welsh, applications submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Neath Port Talbot Council is totally committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people/vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment. Our schools/employees are equally committed to ensuring the safety and protection of all children and young people/vulnerable adults and will take action to safeguard their wellbeing.
Neath Port Talbot Council offers a guaranteed interview scheme for candidates who have a disability and armed forces veterans.
The recruitment process for this post will be underpinned by rigorous safer recruitment assessment to ensure that children and young people are protected.
This post is subject to a Disclosure and Barring Service Enhanced Disclosure (Child/Adult).
What current team members say about working in NPT SBCS:
‘My team are likeminded, experienced and supportive which helps me to feel held.’
‘Stimulating, engaging and challenging is how I would describe my working day with the School Based Counselling Team.’
‘I am so proud of what we do as a team!’
‘The culture of the service is warm and supportive and a place that you feel heard. It is open to individuality with an abundance of knowledge and skills. We come together to help each other to achieve the best outcomes while making good friends in the process.’
On completing the application form, please ensure that you address the elements of the Person Specification.
A public webinar is being held on 13/07/2022 at 4.30pm where the service structure and vision will be presented by Rhian Miller, SBCS Manager. There will be opportunities to meet team members on the call and ask questions about the service and/or role. Should you wish to attend, please email Rhian Miller (r.miller@npt.gov.uk) to request an invite or alternatively to request a call back for an informal discussion about the post.
30 awr yr wythnos
40 wythnos y flwyddyn
Parhaol
Mae Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion Castell-nedd Port Talbot (GCY CNPT) yn dîm amlfoddol o therapyddion sy’n cynnwys Cwnselwyr mewn Ysgolion, Therapyddion Chwarae a Therapydd Drama. Mae GCY CNPT yn ymroddedig i helpu Plant a Phobl Ifanc (PPI) i roi sylw i faterion iechyd emosiynol a meddyliol er mwyn iddyn nhw fedru goresgyn anawsterau, cyflawni eu potensial a byw bywydau llawn boddhad. Cyflawnir hyn trwy ddarparu cwnsela a therapi plant i PPI ym mlynyddoedd 1-13 ar draws CNPT. Mae Cwnselwyr a Therapyddion Chwarae yn darparu therapi wedi’i dargedu i PPI er mwyn ymdrin ag ystod o faterion iechyd emosiynol a meddyliol. Rydym ni’n cefnogi ysgolion yn yr ymdrech hon ar y cyd trwy ddarparu ymgynghori, cymorth a hyfforddiant mewnol o safon uchel sydd ar gael i benaethiaid ysgol, Llywodraethwyr ysgol, staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu. Rydym yn cefnogi rhieni ysgol gynradd i gefnogi llesiant emosiynol eu plant trwy ein Llinell Gymorth Rhieni Cynradd.
Ar ben hynny, mae’r gwasanaeth yn credu’n angerddol mewn rhoi sylw i lesiant staff ysgolion oherwydd y cysylltiad a amlygwyd droeon rhwng llesiant staff a llesiant disgyblion, trwy fentrau fel y Gwasanaeth Goruchwylio Staff Ysgolion a’r Gwasanaeth Cwnsela i Staff Ysgolion.
Mae GCY CNPT yn mynd trwy gyfnod cyffrous o ddatblygu ac ehangu. Mae’r swyddi hyn wedi codi yn sgîl cyllid ychwanegol o fewn y gwasanaeth.
Rydym ni’n awyddus i benodi Therapydd Chwarae cymwys ymroddedig ac arloesol i weithio gyda disgyblion o Flynyddoedd 1-13 ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’n bosibl y bydd peth o’r gwaith hefyd yn cael ei wneud y tu allan i oriau ysgol a’r tu allan i leoliadau ysgol.
Yn ogystal â darparu Therapi Chwarae uniongyrchol, bydd gennych rôl bwysig yn cyflwyno gwaith grŵp yn ôl y galw. Byddwch hefyd yn cynnal gweithdai gyda grwpiau o blant a phobl ifanc, ac yn cyflwyno hyfforddiant yn ôl y galw. Bydd gennych ran hanfodol yn y gwaith o ddatblygu’r Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion o fewn yr awdurdod, gan gynnwys gweithio ar y cyd â staff eraill yn y Gwasanaeth Cynhwysiad a chymryd rhan mewn ymgyngoriadau amlddisgyblaeth ag ysgolion. Bydd gwella sgiliau staff mewn ysgolion hefyd yn elfen bwysig o’r swydd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n meddu ar gymhwyster Therapi Chwarae a gymeradwywyd gan BAPT/PTUK ac sydd wedi’u hachredu/cofrestru gyda chorff proffesiynol perthnasol (h.y. BAPT/PTUK) i gychwyn ym mis Medi 2022 yn amodol ar gyfweliad a gwiriad DBS.
Byddwch yn ymuno â Thîm Cwnsela mewn Ysgolion sy’n gyfeillgar, yn fywiog ac yn arloesol, ac sy’n ymroddedig i gynorthwyo’r AALl i gyflawni mwy o gynhwysiad a chodi safonau addysg. Byddwch yn ymroddedig i’r cysyniad o addysg gynhwysol, ac yn deall yr heriau mae addysg yn eu hwynebu mewn ardaloedd difreintiedig, yn ogystal â chredu’n angerddol mewn cefnogi disgwyliadau uchel a chyflawniad pob disgybl.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc/oedolion agored i niwed, ac mae’n disgwyl i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn. Mae ein hysgolion a’n gweithwyr yr un mor ymroddedig i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc/oedolyn agored i niwed yn cael eu diogelu/hamddiffyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cynllun cyfweliad wedi’i warantu i ymgeiswyr sydd ag anabledd a chynfilwyr y lluoedd arfog.
Bydd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon wedi’i seilio ar asesiad trylwyr recriwtio mwy diogel, er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae’r swydd hon yn destun Datgeliad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (Plant/Oedolion).
Beth mae aelodau presennol y tîm yn ei ddweud am weithio yng Ngwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion CNPT:
‘Mae fy nhîm yn rhannu’r un meddylfryd, yn brofiadol ac yn gefnogol, sy’n fy helpu i deimlo mod i’n cael fy nghynnal.’
‘Byddwn i’n disgrifio fy niwrnod gwaith gyda’r Tîm Cwnsela mewn Ysgolion fel profiad ysgogol, heriol, sy’n cynnal fy niddordeb.’
‘Rydw i mor falch o’r hyn rydyn ni’n ei wneud fel tîm!’
‘Mae gan y gwasanaeth ddiwylliant cynnes, cefnogol, ac mae’n rhywle lle rydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich clywed. Mae’n gallu gweld yr unigolyn, ac yn meddu ar ddigonedd o wybodaeth a sgiliau. Rydyn ni’n dod ynghyd i helpu ein gilydd i gyflawni’r canlyniadau gorau, gan wneud ffrindiau da ar hyd y ffordd.’
Wrth gwblhau’r ffurflen gais, gofalwch eich bod yn rhoi sylw i elfennau’r Fanyleb Person.
Bydd gweminar cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 13/07/2022 am 4.30pm lle cyflwynir strwythur a gweledigaeth y gwasanaeth gan Rhian Miller, Rheolwr y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion. Bydd cyfleoedd i gwrdd ag aelodau’r tîm ar yr alwad a gofyn cwestiynau am y gwasanaeth a/neu’r rôl. Os hoffech fod yn bresennol, e-bostiwch Rhian Miller (r.miller@npt.gov.uk) i ofyn am wahoddiad, neu gallwch ofyn am alwad yn ôl i drafod y swydd yn anffurfiol.